Shwmai!

10fed o Fehefin, 2023 Castell Deudraeth, Portmeirion

Gwahoddir chi i ddathlu ein priodas gyda ni!

groom

Ffion Annest Jones

Y Priodferch
Ffi i'w ffrindiau, sy'n enedigol tafliad carreg o leoliad y Briodas ym Minffordd. Wedi byw yng Nghaerdydd am ryw ddegawd, mae hi nawr nôl i'w chynefin.

Mae Ffi yn gweithio i Gyngor Gwynedd yn yr adran Gyllid, ac mae hi wrth ei bodd yn treulio'i amser sbar yn chwarae gyda Medi'r ci!

groom

Alun Richard Milcoy

Y Priodfab
Rich neu Milcoy i'w ffrindie, sy'n Gardi yn enedigol o Lanwenog, aeth i fyw yng Nghaerdydd ac nawr wedi ymgartrefi ym Mhenrhyndeudraeth!

IT Architect by day, Geek by night, DIYer by weekend ond hefyd yn joio bod mas yn yr awyr iach gyda Medi'r ci!

P.S. Mae e dal yn gardi er bod e'n byw yn y gogs!

Ein diwrnod i gofio

Digwyddiadau'r Briodas

I westeion y dydd yn unig

Y Seremoni a'r Brecwast

12:00 PM 00:00 AM
Sadwrn 10fed Mehefin, 2023

Mae Seremoni Sifil ein priodas, a'r frecwast priodas i ddilyn i gyd yng Nghastell Deudraeth, Portmeirion. Gofynnir i westeion i gyrraedd am 11:30yb

I westeion y dydd a'r parti nos.

Parti Nos

07:00 PM 00:00 AM
Sadwrn 10fed Mehefin, 2023

Mae'r parti nos wedi ei leoli yng Nghastell Deudraeth, Portmeirion hefyd. Fydd yna buffet a disgo i chi gael dathlu gyda ni!

Lleoliad

Castell Deudraeth

Portmeirion
Minffordd
Penrhyndeudraeth
Gwynedd
LL48 6ER

Llefydd parcio ar gael yn y gwesty.
Linc Google Maps
Priodas Ffion & Rich

Ein Stori

Dyma'r stori o'n cariad ni, o'r foment cyntaf i ni gwrdd hyd at heddiw!

  • Dechrau Textio!

    Medi 2011

    Aeth Ffion & Rich i Brifysgol Caerdydd, Ffion i astudio Busnes a Rich i astudio Cyfrifiadureg. Siarad (yn noson Young Farmers!) am y tro cynta yn Oceana (sydd ddim 'na rhagor, well kind of!) a dechrau textio. Wnaeth Crôl Teulu y Gym Gym helpu dod a ni at ein gilydd. Felly mae 'na ddiolch mawr i Gymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd, Y Ffermwyr Ifanc, Hedydd a Carys!

  • Y Dêt Cyntaf

    Hydref 2011

    Roedd y dêt cyntaf yn un "classy", yn Y Mochyn Du! Ffion's drink of choice - Cider and Black. A wedyn 'mlan i Walkabout, just y ddau ohonom ar nos Iau!

  • Mewn Perthynas

    Hydref 21, 2011

    Noson cyn ei benblwydd yn 22 oed, fe wnaeth Rich holi Ffion allan! Ni'n gwybod beth oedd ateb Ffion!

  • Ein Tŷ Cyntaf

    Mai 2014

    Prynu ein Tŷ cyntaf yng Nghaerdydd. Wnaethom lot o waith ar y tŷ a cawsom sawl blynedd hapus yn byw yna.

  • Medi

    Tachwedd 2020

    Nol Medi, ein Labrador brown gwyllt! Y ddau ohonom wedi gwirioni a hi fel ein babi bach ni!

  • Dyweddïo!

    Diwrnod Santes Dwynwen (Ionawr 25) 2021

    Gyda ninnau i gyd yng nghanol lockdown, fe wnaeth Rich a Ffi ddyweddïo adref. Medi oedd y ring bearer y noson yna!

  • Cartref byth bythoedd

    Mehefin 2021

    Yng nghanol lockdown penderfynodd y tri ohonom symud o Gaerdydd i Benrhyndeudraeth, ym mhrydferthwch Eryri a phrynnu ein Tŷ newydd.

Ydych chi'n dod?

Cliciwch y bwtwm isod i lenwi'r RSVP erbyn 10/04/2023 ar yr hwyraf. Diolch!

Pwysig!

Fydd rhaid llewni y ffurflen uchod i bob person sydd wedi cael gwahoddiad. Diolch!